Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Priorities for the Children, Young People and Education Committee

 

CYPE 44

Ymateb gan : Mudiad Meithrin

Response from : Mudiad Meithrin

 

Cwestiwn 1 – Yn y cylch gwaith uchod, yn eich barn chi, pa flaenoriaethau neu faterion y dylai’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg roi sylw iddynt yn y Pumed Cynulliad?

Wrth ystyried uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gwelir pwysigrwydd prif-ffrydio’r Gymraeg ym mhob agwedd o waith y Llywodraeth.  Cynigiwn fod angen i flaenoriaethu cynyddu nifer y plant sydd yn derbyn addysg a gofal cyfrwng Cymraeg.  Nodwyd blaenoriaeth i sicrhau cyflenwad digonol o athrawon i addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn y strategaeth ddrafft miliwn o siaradwyr erbyn 2050.  Cynigiwn yr angen i ymestyn hyn i gwmpasu’r gweithlu blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o weithlu gofal i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

 

Cydnabu'r Llywodraeth fod y blynyddoedd cynnar yn gyfnod hanfodol yn nhaith plentyn tuag at ruglder yn y Gymraeg. Gwelwn yr angen i normaleiddio ac i brif-ffrydio argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, gydag ystyriaeth benodol i sicrhau ehangu a chynyddu canran y llefydd Cymraeg o fewn lleoliadau Dechrau’n Deg i lefelau sy’n gymharus a’r nifer o blant sydd mewn addysg Gymraeg ym mlwyddyn 2 yn yr ysgol Gynradd.  Gweler hefyd yr angen i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gosod targedau ar gyfer tyfu darpariaeth blynyddoedd cynnar a’u cynnwys yn y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, fel y nodwyd yng ngwerthusiad diweddar y Strategaeth Addysg Gymraeg.  Fe fyddai hyn hefyd yn cefnogi un o’r nodau llesiant “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu” a nodwyd yn neddf Llesiant cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Yn atodol, ceir consensws trawsbleidiol o’r angen i drechu tlodi ac i leihau effeithiau niweidiol tlodi ar ddatblygiad plant a theuluoedd.  I’r perwyl hwn, cynigiwn y byddai cefnogi’r sector gofal blynyddoedd cynnar i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi y tu hwnt i ardaloedd dynodedig Dechrau’n Deg yn ffordd o ymestyn cyrhaeddiad agweddau penodol o’r cynllun presennol.

 

Nodwn hefyd yr angen i sicrhau trafodaethau a chyd-weithio ar draws y sectorau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau gweithredu’r cynnig o 30 awr o ofal i blant 3 a 4 oed rhieni sy’n gweithio.  Gwelwn gyfle cyffroes i ddatblygu ac ehangu’r cynnig i rieni ar draws y sector gofal - yn gylchoedd meithrin, playgroups, meithrinfeydd dydd neu’n warchodwyr plant.

 

Wrth ystyried y cynnydd arfaethedig hwn yn yr oriau gofal plant rhad ac am ddim fydd yn cael eu cynnig i nifer o deuluoedd, amlygir yr angen i sicrhau tegwch i blant ag anghenion ychwanegol.  Mae costau ychwanegol ynghlwm i hyn i nifer o deuluoedd, a gwelwn yr angen i sicrhau cysondeb i bob plentyn, waeth beth fo’u hanghenion.

 

Gwelir angen yma i sicrhau nad ydy’r newidiadau sydd ar y gweill yn sgil dyfodiad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cael effaith negyddol ar allu unigolion i ddefnyddio’r gwasanaethau perthnasol.

 

Yn atodol, gwelir yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth arbenigol amserol i’r gweithlu blynyddoedd cynnar. 

 

Conglfaen pwysig i’r blaenoriaethau uchod yw sicrhau gweithlu cymwys sydd yn meddu ar y sgiliau proffesiynol ac ieithyddol angenrheidiol.  I’r perwyl hwn, cynigiwn fod angen buddsoddiad ariannol er mwyn medru sicrhau cyflenwad digonol o ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n medru darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. 

Amlygwn yr angen i ddatblygu darpariaeth cymhwyster lefel 5 yn dilyn pwysau cynyddol o du’r cynllun Dechrau’n Deg i arweinyddion cylchoedd meithrin i gymhwyso i’r lefel hwn, ac i sicrhau darpariaeth cyrsiau lefel 2 a 3 trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru.  Nodwn yr angen i barhau i gyllido’r ac i fuddsoddi yn y cymwysterau hyn at y dyfodol. Yma, nodwn hefyd yr angen i fuddsoddi i ddatblygu gweithlu o diwtoriaid ac aseswyr sydd yn medru ateb y galw am addysg a hyfforddiant yn Gymraeg yn y maes.

 

Nodwn yr angen i barhau i gynyddu bri a statws y gweithlu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar.  Cynigiwn mai dyma’r ffordd i sicrhau denu ymarferwyr brwdfrydig, egnïol a gwybodus i ddewis gyrfa yn y maes.

Cwestiwn 2 - O’r blaenoriaethau neu faterion a nodwyd gennych, beth yw’r prif feysydd, yn eich barn chi, y dylid rhoi sylw iddynt yn y 12 mis nesaf (nodwch hyd at dri maes neu fater)?  Amlinellwch pam y dylid rhoi sylw i’r rhain fel prif flaenoriaethau.

1.   Sicrhau cynnig rhagweithiol gwasanaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar.  Gwelir gwasanaethau gofal blynyddoedd cynnar yn gam cyntaf pwysig yn nhaith addysg a datblygiad plant ifanc.  Dim ond drwy gynyddu’r capasiti i ddarparu addysg a gofal cyfrwng Cymraeg drwy gynllunio rhagweithiol gan yr awdurdodau lleol a’u partneriaid y gellid gwneud hyn.

 

2.   Llywio cydweithio ar draws y sectorau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ddatblygu darpariaeth y cynnig 30 awr gofal / addysg rad ac am ddim.  Er ein bod yn croesawu’r cynnig arloesol hyn, cynigiwn fod angen sicrhau trafod a chynllunio’n ofalus wrth ddatblygu a chyflwyno’r cynnig hwn er mwyn sicrhau bod digon o lefydd ar gael i’r sawl sydd yn gymwys eu derbyn.  Fydd hefyd angen sicrhau nad ydy’r cynnig 30 awr yn tynnu oddi ar allu’r sector gofal ac addysg blynyddoedd cynnar - yn gylchoedd meithrin, playgroups, meithrinfeydd dydd neu’n warchodwyr plant - i ddiwallu gofynion teuluoedd a phlant nad sydd yn gymwys i dderbyn y cynnig estynedig hwn.

 

3.   Cynyddu statws y gweithlu blynyddoedd cynnar.  Fel y nodwyd eisoes, teimlwn yn gryf mai’r gweithlu yw conglfaen medru darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o’r ansawdd uchaf posib.  Er mwyn atynnu unigolion o’r calibr uchaf posib, mae sicrhau gwerth y sector fel dewis gyrfa broffesiynol yn hanfodol.